
Croeso i Ymddiriedolaeth Coetiroedd Caerffili
Rydym yn frwd dros warchod holl fywyd gwyllt a daeareg bwysig yr ardal a’n nod bob amser yw lleihau ôl troed carbon yr ardal drwy gadw a gwarchod y cynefinoedd naturiol drwy greu a rheoli llwybrau ffurfiol a phwyntiau mynediad fel y gall y gymuned fwynhau profiad o safon heb effeithio’n negyddol ar yr amgylchedd.
Am Ymddiriedolaeth Coetiroedd Caerffili
Prynodd Ymddiriedolaeth Coetiroedd Caerffili y safle yn 2002 gyda chymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’r Comisiwn Coedwigaeth.
Penderfynodd y gwirfoddolwyr enwi’r coetir yn ‘Coed y Werin’ sy’n golygu ‘The
People’s Woods’ yn y Saesneg.
Mae’r safle wedi’i ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) daearegol oherwydd y creigiau a’r strata 300 miliwn o flynyddoedd oed a geir yma. Mae hefyd yn cael ei gydnabod fel Safle o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur (SINC) oherwydd y ddau gynefin pwysig – gwlypdiroedd a choetiroedd.
Ein Noddwr a’n mentor yw’r Naturiaethwr, Awdur a chyflwynydd teledu Iolo Williams.

“I am thrilled to have been asked to act as Patron to this wonderful Charity. This group of volunteers have been looking after this amazing space, Coed y Werin, since 2002 with little outside help other than a dedicated bunch of hard working, enthusiastic, visionary volunteers and it’s fantastic to see what they have achieved”




